Clegg - condemnio'i bartneriaid Ceidwadol
Mae ffrae fawr arall wedi codi rhwng dwy ochr y llywodraeth glymblaid yn Llundain – y tro yma tros gosbi pobol sy’n defnyddio cyffuriau.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi condemnio penderfyniad y Ceidwadwyr i wrthod gweithredu tros adroddiad sy’n dweud nad yw cosb yn gweithio.

“Dyw’r rhyfel ar gyffuriau ddim yn gweithio,” meddai Nick Clegg. “Rhaid i ni roi’r gorau i’r farn arwynebol yma bod siarad caled yn datrys y broblem. Mae hynny’n bradychu teuluoedd y 2,000 sy’n marw bob blwyddyn y nein gwlad.”

Ond, yn ôl llefarydd o rif 10 Downing Street, fe fyddai ei bolisi ef a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi neges “ofnadwy o beryglus” i bobol ifanc.

Cosbi llym – dim effaith

Roedd adroddiad gan y Swyddfa Gartref ei hun wedi awgrymu nad oedd cosbi llym am ddefnyddio cyffuriau yn gweithio.

Doedd dim gwahaniaeth amlwg, meddai, rhwng lefelau cymryd cyffuriau mewn gwledydd sy’n cosbi o gymharu gyda gwledydd lle nad yw defnyddio cyffuriau’n drosedd.

Roedd yr adroddiad hefyd yn awgrymu bod cyflyrau iechyd yn well mewn gwledydd, fel Portiwgal, lle nad oedd cymryd cyffuriau’n drosedd, o gymharu â  gwlad fel y Weriniaeth Tsiec, lle mae yn erbyn y gyfraith.

Clegg v Cameron

Yr ateb, meddai, Nick Clegg oedd trin defnyddwyr fel pobol oedd angen triniaeth yn hytrach na throseddwyr.

Ond mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi mynnu bod polisi’r Llywodraeth yn gywir ac na fyddai’n newid.

Yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma fe ddywedodd rhai aeloedau Ceidwadol hefyd nad oedden nhw o blaid y polisi presennol a bod angen ailfeddwl.

Fe fyddai hynny’n annerbyniol i lawer ar ochr draddodiadol y blaid.