Y Farwnes Warsi
Mae cyn Weinidog Tramor wedi ymosod yn gryf ar bolisi ei llywodraeth ei hun tuag at Israel, y Palestiniaid a’r Dwyrain Canol.

Dyw polisi Llywodraeth Prydain ddim yn dal dŵr, meddai’r Farwnes Warsi, ac, o ganlyniad, dyw’r Deyrnas Unedig ddim bellach mewn sefyllfa i ddod â’r ddwy ochr ynghyd.

Dyma’i araith gynta’ yn Nhŷ’r Arglwyddi ers ymddiswyddo ym mis Awst – fe ddywedodd heddiw nad oedd hi bellach yn gallu amddiffyn y polisi yr oedd hi i fod i’w hyrwyddo.

‘Tagu’r ateb gwleidyddol’

Ei phrif feirniadaeth oedd fod Llywodraeth Prydain yn condemnio polisi Israel o adeiladu pentrefi newydd ar dir y Palestiniaid ond nad oedd yn gwneud dim am hynny wedyn.

Roedd Israel hefyd, meddai, yn dal i feddiannu’r tiroedd yr oedd wedi eu cipio yn rhyfel 1967 ac roedd hi’n anwybyddu cyfraith ryngwladol.

Roedd hynny, meddai, yn tanseilio’r gobaith o gael ateb gwleidyddol trwy sefydlu gwladwriaeth i’r Palestiniaid ochr yn ochr ag Israel.

‘Anfoesol’

“Mae’r anheddiadau newydd yn creu pocedi o Balestiniaid, wedi eu gwahanu oddi wrth ei gilydd ac heb y gallu i oroesi,” meddai’r Farwnes Warsi.

“Felly mae hyn yn ymgais fwriadol, wedi’i chynllunio i dagu’r hyn yr yden ni’n ei alw yn ‘ateb dwy wladwriaeth’.”

Oherwydd bod y polisi’n “anfoesol” yr oedd hi wedi ymddiswyddo, meddai, nid oherwydd ei bod hi’n Foslem.

  • Heddiw, fe gyhoeddodd Sweden ei bod hi’n swyddogol yn cydnabod gwladwriaeth Balestinaidd.