Paul Flynn
Ymgyrch lluoedd gwledydd Prydain yn Afghanistan oedd y camgymeriad milwrol gwaetha’ ers ymosodiad y Light Brigade, meddai Aelod Seneddol o Gymru.

Fe alwodd Paul Flynn, AS Gorllewin Casnewydd, am ymchwiliad i’r ymgyrch yn nhalaith Helmand lle cafodd 453 o’r lluoedd arfog eu lladd – gan gynnwys 29 o Gymru.

Pan wnaethpwyd y penderfyniad i ymosod ar y Taliban yn Helmand, dim ond dau filwr Prydeinig oedd wedi eu lladd yn Afghanistan, meddai.

Yn y diwedd, fe barhaodd yr ymgyrch am wyth mlynedd gan ddod i ben yn swyddogol ynghynt yr wythnos yma.

“Fe ddywedwyd wrthon ni yn 2006 y bydden ni’n mynd yno am dair blynedd yn y gobaith na fyddain rhaid tanio ergyd,” meddai Paul Flynn yn ystod y Cwestiynau Busnes yn Nhŷ’r Cyffredin.

Addo datganiad neu ddadl

Wrth ymateb fe ddywedodd Arweinydd y Tŷ, William Hague, y byddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, yn gwneud datganiad yn y Senedd ac efallai y byddai dadl hefyd.

Nid dyma’r tro cynta’ i Paul Flynn gymharu’r ymgyrch gydag ymosodiad marchogion Byddin Prydain yn Rhyfel y Crimea yn 1854 pan gafodd mwy na chant eu lladd wrth garlamu at ynnau mawr y Rwisiad.