Diwedd Hydref Dyffryn Teifi
Fory fydd y Calan Gaeaf cynhesaf ers dechrau cadw cofnodion, yn ôl arbenigwyr.

A 2014 yw’r flwyddyn gynhesaf erioed hyd yn hyn yn ôl cofnodion swyddogol MeteoGroup.

Mae’r cwmni’n weud y gallai’r tymheredd gyrraedd 21 gradd selsiws yn ne ddwyrain Lloegr fory, sydd tua saith neu wyth gradd yn uwch na’r arfer.

Tymheredd y flwyddyn

Mae’r tymheredd wedi codi’n uwch na’r cyfartaledd mewn naw allan o ddeg mis y flwyddyn hyd yn hyn – dim ond mis Awst sydd wedi bod yn is na’r cyfartaledd blynyddol, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Er bod 16% yn fwy o law wedi cwympo hyd at ddiwedd y mis hwn, mae Cymru wedi bod yn fwy sych na gwledydd eraill Prydain.

Mae disgwyl i’r tymheredd ostwng yr wythnos nesaf 10 neu 11 gradd selsiws – y cyfartaledd ar gyfer mis Tachwedd.