Alistair Darling - y Canghellor ar y pryd
Mae Llys yr Old Bailey wedi clywed bod un o swyddogion y wasg i Lywodraeth Prydain wedi derbyn £750 am ddatgelu manylion cyfrinachol am y Gyllideb wrth newyddiadurwr o’r Sun.

Mae’r newyddiadurwraig Clodagh Hartley wedi’i chyhuddo o dalu £17,000 i Jonathan Hall dros gyfnod o dair blynedd am fanylion am nifer o straeon.

Ym mis Mawrth 2010, yn ôl yr erlyniad, fe roddodd Hall wybodaeth ymlaen llaw am gyllideb y Canghellor Alistair Darling i’r newyddiadurwraig a oedd yn olygydd Whitehall i’r papur.

Roedd yr wybodaeth yn cynnwys datgelu y byddai yna gynnydd mewn treth ar danwydd.

Defnyddio cyfrif ei gariad

Clywodd y llys fod Hall wedi derbyn mwy na £4,000 gan News International, y cwmni sy’n berchen ar y paur, rhwng Ebrill 2008 a Mai 2010.

Yn ôl yr erlyniad, cafodd cyfrif banc ei gariad, Marta Bukarewicz, ei ddefnyddio i guddio mwy na £13,000 o daliadau eraill rhwng Mehefin 2010 a Gorffennaf 2011.

Cafodd y rhan fwyaf o’r arian ei drosglwyddo yn ôl i Hall, ond cadwodd Bukarewicz £485 am fod yn rhan o’r cynllwyn.

Clywodd y llys fod Hall yn derbyn ei fod wedi rhoi manylion i Hartley yn gyfnewid am arian.

Mae Hartley a Bukarewicz yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ac mae’r achos yn parhau.