Andrew Riches (Llun Heddlu)
Mae pryder am ddiogelwch dyn o Lundain sydd wedi diflannu yn Eryri.

Roedd y dyn 46 oed wedi gadael ei fflat yn Llundain ddydd Llun ond dyw ei deulu ddim wedi clywed ganddo wedyn.

Fe gafodd ei gar ei weld fore Mercher ar gyrion Eryri, lle mae wedi bod yn gwersylla yn y gorffennol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n cydweithio gyda Heddlu Llundain, sydd wedi gofyn am wybodaeth am Andrew Riches sy’n 5’9”, yn foel ac yn gry’ ei gorff.

Mae’n teithio mewn car ystâd Ford Mondeo glas – rhif SD04 WDC – ac fe ddylai unrhyw un sy’n ei weld gysylltu gyda’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar  0800555111.