Y Coliseum
Heddiw yw diwrnod olaf ymgynghoriad ar gynlluniau gan gwmni o Sir Gaer i chwalu adeilad sinema’r Coliseum ym Mhorthmadog.
Mae Development UK Northern o Altrincham yn bwriadu dymchwel yr adeilad a gaeodd yn 2011 oherwydd diffyg diddordeb gan gwsmeriaid.
Ers pythefnos, mae Cyngor Sir Gwynedd wedi bod yn ymgynghori gyda’r cyhoedd am y bwriad ac mae ymgyrch wedi’i sefydlu er mwyn ceisio achub y sinema.
Ymgyrch achub
Dyma’r neges ar dudalen Facebook yr ymgych: “Chwalu’r adeilad, chwalu’n hatgofion, chwalu Port. GWRTHWYNEBWCH! RHAID i’ch gwrthwynebiad fod i mewn erbyn y 30ain.”
“Mae’r cyfnod ymgynghori 14 niwrnod lle mae cyfle i’r cyhoedd gynnig eu sylwadau wedi dechrau ers 16 Hydref ac yn dod i ben heddiw (30 Hydref),” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
Ychwanegodd y bydd Gwasanaeth Cynllunio’r Cyngor yn gwneud penderfyniad ynghylch y cais erbyn Tachwedd 10.
Cadw’n ystyried
Y Coliseum yw un o’r adeiladau anwyla’ yng ngolwg pobol ardal Porthmadog. Fe gafodd ei agor yn 1931 ac mae’n nodweddiadol o sinedmâu y cyfnod gyda’i phensaernïaeth art deco.
Un posibilrwydd arall yw y byddai’r corff hanes, Cadw, yn rhestru’r adeilad gan ei gwneud yn llawer mwy anodd i’w newid neu ei ddinistrio.
Fe gadarnhaodd y corff eu bod nhw wedi cael cais i ailystyried eu dyfarniad ar yr adeilad.