Mae band newydd o Gaerdydd wedi penderfynu dilyn trywydd anarferol gyda’u sengl cyntaf – a chanu am ysgariad.

Bydd Estrons yn cyhoeddi eu sengl cyntaf, ‘C-C-CARIAD!’, ddydd Llun 3 Tachwedd yn rhan o ddathliadau 10 mlynedd cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar.

Ac fe allwch chi wrando ar ragflas byr o’r gân yma ar golwg360, cyn i’r grŵp lansio’r sengl mewn gig arbennig yn Aberystwyth nos Wener yma:

‘Chydig o jôc’

Mae’r sengl C-C-CARIAD! yn cael ei chyhoeddi yn rhan o gynllun newydd Clwb Senglau’r Selar, ble bydd y cylchgrawn yn cydweithio â label Rasal i gyhoeddi sengl gyntaf artist addawol bob mis.

Ac yn ôl gitarydd y band, mae thema’r gân yn eironig iawn o ystyried bod prif ganwr y grŵp, Tali Källström, newydd gael ei phlentyn cyntaf ychydig wythnosau yn ôl.

“’Wnaethon ni recordio jyst cyn i Tali fynd yn feichiog,” esboniodd Rhodri Daniel mewn cyfweliad yn rhifyn diweddaraf Y Selar sydd allan fory.

“Roedden ni wedi clywed gormod o ganeuon am gariad felly benderfynon ni sgwennu cân am ysgariad! Chydig bach o jôc ond ma’ hi’n eitha’ ffyrnig ac yn gân dda i orffen set.

“Mae’r gân am fam yn dweud wrth y tad, cer di â’r plant, af i â’rr gath a’r ci … ac yna ychydig wythnosau wedyn mae Tali’n disgwyl babi! Ma’n eitha’ doniol.”

Gig 10 Y Selar

Bydd Estrons yn perfformio fel rhan o gig Dathlu Deg Y Selar yn Neuadd Fawr Aberystwyth noson 31 Hydref fydd hefyd yn cynnwys Sŵnami, Yr Eira, Ysgol Sul a Sgilti.

Mae’r gig yn rhan o daith 10 Y Selar sydd hefyd yn cynnwys gigiau yn nhafarn Rascals ym Mangor ar 7 Tachwedd a Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd.

Mae gan aelodau Estrons brofiad o chwarae mewn bandiau yn y gorffennol – Rhodri gyda’r grŵp o Lanbedr Pont Steffan, Java, a Tali gyda’r Threatmantics – ond syniad y Clwb Senglau, yn ôl golygydd Y Selar, yw cynnig llwyfan i grwpiau newydd gael eu clywed.

“Mae’r Selar bob amser wedi rhoi llwyfan i artistiaid newydd rhwng cloriau’r cylchgrawn gydag erthyglau fel ‘Dau i’w Dilyn’ a ‘Ti di Clywed’,” meddai Uwch Olygydd y cylchgrawn, Owain Schiavone.

“Wrth i ni ddathlu deng mlynedd o gyhoeddi’r cylchgrawn, fe benderfynwyd i geisio mynd â hynny un cam ymhellach gyda’r Clwb Senglau.

“Y bwriad ydy rhyddhau deunydd cyntaf rhai o’r grwpiau mwyaf cyffrous rydan ni’n dod ar eu traws gan obeithio dod â nhw i sylw labeli fydd yn gallu mynd â nhw i’r cam nesaf o ryddhau EP neu albwm.”

Bydd modd prynu’r sengl ar iTunes ac ar siopau cerddoriaeth digidol eraill ddydd Llun 3 Tachwedd, wedi’r lansiad swyddogol yn gig ‘Selar 10’.