Mae’r awdures Meleri Wyn James wedi cyhoeddi’r llyfr diweddaraf am ei chymeriad hoffus Nel, fisoedd ar ôl i’r cyntaf ddod yn llwyddiant ysgubol.

Dros yr haf fe fu’r awdures yn gweithio ar Dyddiadur Nel, dilyniant i’w chyfres o straeon hynod o boblogaidd Na, Nel! gafodd eu cyhoeddi’n gynharach eleni.

Mae Dyddiadur Nel, sydd wedi’i chyhoeddi gan Y Lolfa, yn cynnwys lle i blant ysgrifennu cofnod bob diwrnod, llenwi amserlen ysgol, a straeon a gwybodaeth am bethau Cymreig.

Ac mae Meleri Wyn James yn gobeithio y bydd yn efelychu llwyddiant ei llyfrau eraill am Nel, oedd wedi’u hanelu at blant saith i naw oed ac yn adrodd hanes merch fach ddireidus.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr i weld ymateb plant a rhieni i’r dyddiadur,” meddai’r awdures wrth golwg360.

Llwyddiant Nel

Cafodd cyfres Na, Nel! ei chyhoeddi ym mis Ebrill eleni, ac erbyn mis Medi fe fu’n rhaid ailargraffu ar ôl i bob copi gael ei werthu.

Treuliodd Meleri Wyn James y chwe mis diwethaf yn teithio o gwmpas ysgolion a gwyliau yn rhannu anturiaethau Nel gyda phlant Cymru.

Ac mae’r llyfrau nawr ymhlith y dewisiadau ar gyfer plant blynyddoedd 3-4 yn Darllen Dros Gymru, cystadleuaeth llyfrau plant Cyngor Llyfrau Cymru 2014-15.

Cafodd yr awdures o Aberystwyth ei hysbrydoli i ysgrifennu’r llyfrau am gymeriad Nel gan ei phlant ei hun.

Ac fe aeth ati i lunio’r dyddiadur ar ôl gweld ymateb y plant i’r straeon gwreiddiol, gyda chymorth Sion Ilar, ei gŵr sydd hefyd yn ddylunydd, a’r artist John Lund.

“Mae plant wrth eu boddau yn rhannu direidi Nel ac yn defnyddio eu dychymyg i lunio straeon ac ro’n i eisiau creu llyfr fyddai’n cynnig mwy o hwyl Nel a chyfle i blant nodi eu hanturiaethau eu hunain,” meddai Meleri Wyn James.

“Mae’r dyddiadur yn cyflwyno hanesion ac arferion Cymreig, yn yr un modd â straeon Na, Nel!

“Mae’n llawn o hiwmor Nel ac mae yna jôcs a chartwnau a syniadau am bethau i blant eu gwneud.

“Mae digon o le i blant ysgrifennu am beth maen nhw wedi bod yn ei wneud hefyd. Dwi ddim yn meddwl bod yna ddim byd fel hyn yn y Gymraeg ar hyn o bryd.”