Jim Murphy - y trydydd yn y ras (Llun: PA)
Yr Aelod Seneddol Jim Murphy yw’r diweddaraf i gynnig ei enw am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr Alban.

Mae’r AS tros Ddwyrain Renfrewshire yn Nhŷ’r Cyffredin ymuno â a’r ddau aelod o Senedd yr Alban, Sarah Boyack a Neil Findlay yn y ras i ddilyn Johann Lamont ar ôl iddi hi ymddiswyddo yr wythnos diwethaf.

‘Adnabyddus’

Yn ôl sylwebyddion, Jim Murphy yw’r mwya’ adnabyddus o’r tri, ac yntau wedi bod yn Ysgrifennydd yr Alban a bellach yn llefarydd mainc flaen yn San Steffan ar ddatblygu rhyngwladol.

Ond y farn yw y gallai ddiodde’ oherwydd ei gysylltiadau Llundeinig – rheswm Johann Lamont tros fynd oedd bod y Blaid Lafur yn Llundain yn trin plaid yr Alban fel swyddfa gangen.

Mae Jim Murphy eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â hynny trwy ddweud na fydd yn cael “ei wthio o gwmpas gan unrhyw un” ac wedi cyhoeddi bwriad o fod yn Brif Weinidog yr Alban.

Amlwg adeg y refferendwm

Roedd Jim Murphy wedi cael llawer o sylw yn ystod ymgyrch y refferendwm trwy gynnal ymgyrch 100 tref mewn 100 niwrnod yn erbyn annibyniaeth.

Bydd yn lansio ei ymgyrch yn ffurfiol ddiwedd yr wythnos.

Mae tri o’r enwau amlyca’- Anas Sarwar,  Jenny Marra a Kezia Dugdale – eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cynnig am yr arweinyddiaeth.