Ian McKellen a rhai o'r plant
Fe fu’r actor byd-enwog Syr Ian McKellen yn ymweld ag ysgol Gymraeg yr wythnos hon, i ganmol disgyblion am eu gwaith yn delio â chasineb at bobol hoyw.

Ysgol Plasmawr, Caerdydd, yw un o’r ysgolion cyntaf i ddod yn rhan o gynllun gan fudiad hawliau hoyw Stonewall Cymru sy’n annog ysgolion i ddathlu amrywiaeth.

Fe ddaeth disgyblion i’r ysgol yn ystod gwyliau hanner tymor er mwyn siarad gyda Syr Ian, sy’n ymgyrchwr brwd tros hawliau hoyw, am yr angen i herio’r defnydd o  iaith homoffobaidd.

Mae Stonewall Cymru ar fin lansio pecyn hyfforddi newydd ar gyfer athrawon, sy’n rhoi’r hyder a’r technegau angenrheidiol i staff ysgolion daclo bwlio yn erbyn pobol hoyw.

Bwlio

Dangosodd Adroddiad Ysgol Stonewall Cymru yn 2012 fod 99%o bobol ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru yn clywed iaith homoffobaidd yn yr ysgol, a bod mwy na’u hanner wedi dioddef o fwlio homoffobaidd.

“Does dim byd yn bwysicach i fi na gallu helpu pobol ifanc hoyw i sylweddoli bod dyddiau gwell i ddod iddyn nhw,” meddai Syr Ian McKellen.

“Rydw i’n teimlo balchder bod Stonewall – mudiad y gwnes i helpu i’w sefydlu er mwyn taclo homoffobia cyfreithlon – bellach yn arwain y frwydr yn ysgolion Prydain lle mae bwlio homoffobaidd yn difetha bywydau gormod o bobol ifanc.

‘O ddifri’

Yn ôl Marc Lewis, sy’n athro yn Ysgol Plasmawr, mae’r disgyblion wedi bod yn mynd â’r nges y tu allan i’r ysgol hefyd.

“Mae disgyblion Plasmawr wedi cymryd cydraddoldeb o ddifrif ac maen nhw’n hyrwyddo neges gadarnhaol gan bobol ifanc, i bobol ifanc: mae bod yn chi eich hunan yn beth da,” meddai.