Bathodyn Heddlu Manceinion
Mae cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei weld yn beth “normal” mewn rhai strydoedd a stadau ym Manceinion, yn ôl awdur adroddiad newydd yn sgil sgandalau gam-drin Rochdale a Rotherham.
Mae’r ymchwiliad, dan arweiniad yr Aelod Seneddol Ann Coffey, yn awgrymu bod cam-drin plant yn rhywiol wedi cynyddu o ganlyniad i fideos cerddoriaeth rywiol, selfies, a negeseuon testun anweddus, neu ‘secstio’.
Daeth i’r amlwg bod merched mewn gwisg ysgol yn cael eu stopio yn rheolaidd gan ddynion hŷn mewn ceir, ond bod y cyhoedd yn dueddol o feio’r plant a’r bobol ifanc.
Mae Ann Coffey wedi galw am wneud egsbloetio plant yn rhywiol yn “flaenoriaeth gyhoeddus” a’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi dweud bod y canfyddiadau yn “ddychrynllyd”.
Norm cymdeithasol
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Manceinion, Tony Lloyd, yn dilyn achos yn Rotheram, ble cafodd naw dyn o dras Asiaidd eu carcharu am gam-drin mwy na 1,400 o ferched dan oed yn rhywiol.
“Fe fydd y canlyniadau yn boenus iawn i’w darllen i’r rheiny oedd yn meddwl bod achos Rochdale yn ynysig,” meddai Ann Coffey wrth drafod yr adroddiad.
“Mae’n bosib bod y norm cymdeithasol yma wedi gweld cynnydd oherwydd mwy o fideos cerddorol sy’n cynnwys rhywfaint o ddelweddau pornograffig, secstio, selfies ac Instagram. Mae wedi drysu’r ddealltwriaeth o hawliau a chaniatâd rhywiol.”
Miloedd yn mynd ar goll
Dangosodd yr adroddiad hefyd bod mwy na 3,000 o blant o dan 18 oed wedi mynd ar goll yn ardal Manceinion eleni, a bod un o bob pump mewn peryg o gael eu cam-drin yn rhywiol.
Mae’r Swyddfa Gartref eisoes wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol i achosion o gam-drin plant o fewn cyrff cyhoeddus.