Mae Heddlu Swydd Surrey wedi cael eu beirniadu am ddychwelyd dryllau i ddyn sydd wedi cael ei ganfod yn euog o lofruddio’i wraig a’i merch hithau.

Dywed merch a chwaer y ddwy a gafodd eu llofruddio gan John Lowe fod y dryllau wedi cael eu cipio oddi ar y dyn 82 oed fisoedd yn unig cyn y llofruddiaethau, ond bod Heddlu Swydd Surrey wedi dychwelyd yr arfau i’w feddiant yn ddiweddarach.

Cafodd Christine Lee, 66, a’i merch Lucy Lee, 40, eu saethu’n farw ym mis Chwefror ar fferm yn Swydd Surrey, wrth i Lowe ddefnyddio dryll yr oedd yn ei ddefnyddio fel arfer i ladd llygod mawr.

Dywedodd merch Christine Lee, Stacy Banner: “Roedd y dryll yn un o saith a gafodd eu dychwelyd iddo gan yr heddlu fisoedd yn unig cyn iddo’i ddefnyddio i ladd.

“Taniodd John Lowe y dryll ond Heddlu Swydd Surrey oedd wedi rhoi’r dryll yn ei ddwylo.”

Heddlu’n ymddiheuro

Mae’r heddlu wedi ymddiheuro wrth y teulu am ddychwelyd y dryll i Lowe fis Gorffennaf diwethaf, bedwar mis wedi iddyn nhw gael eu cipio oddi arno.

Mae’r achos wedi cael ei drosglwyddo i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Ychwanegodd Stacy Banner: “Daeth fy mywyd i ben pan ddaeth eu bywydau nhw i ben ar 23 Chwefror eleni.”

Galwodd am adolygiad i’r ffordd y mae trwyddedau ar gyfer dryllau’n cael eu hawdurdodi.

Cadarnhaodd Heddlu Swydd Surrey bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i ymddygiad tri o blismyn wrth iddyn nhw benderfynu dychwelyd y dryllau i feddiant Lowe.