Recep Tayyip Erdogan
Mae ymdrechion ar y gweill i achub 18 o lowyr sydd wedi cael eu caethiwo mewn pwll glo yn ne Twrci.

Cafodd y gweithwyr eu caethiwo wrth i law lifo i mewn i’r pwll wrth iddyn nhw weithio dan ddaear.

Mae gweithwyr wrthi’n pwmpio dŵr allan o’r pwll yn y gobaith o ryddhau’r gweithwyr.

Mae prif weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi gohirio derbyniad cenedlaethol i ymweld â’r pwll glo yn nhref Ermenek yn nhalaith Karaman.

Llwyddodd oddeutu 20 o weithwyr i ddianc o’r pwll ddoe, ond mae’r gobeithion o dynnu’r gweddill allan yn fyw yn pylu.

Dywedodd yr awdurdodau fod pibell wedi torri a bod dŵr wedi gollwng.