Nicola Sturgeon
Ni ddylai’r Deyrnas Unedig gael gadael yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod ei phedair gwlad yn pleidleisio o blaid y fath gam mewn refferendwm.
Dyna neges darpar Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ac arweinydd yr SNP.
Dywed Sturgeon ei bod yn anochel y bydd refferendwm yn cael ei gynnal yn 2017, yn unol ag addewid y Ceidwadwyr.
Ond mae’n dadlau ei bod yn angenrheidiol bod gan y pedair gwlad lais cryf mewn unrhyw benderfyniad, fel na fyddan nhw’n cael eu “boddi” gan wrthwynebwyr i’r Undeb Ewropeaidd yn Lloegr.
Mae disgwyl i Sturgeon gyhoeddi y bydd gwelliant yn cael ei gynnig gan yr SNP i’r refferendwm i’r diben hwn pan fydd yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol.
Sturgeon ar daith
Daw sylwadau Nicola Sturgeon wrth iddi baratoi i deithio o amgylch yr Alban yn amlinellu ei gweledigaeth pan fydd hi’n dod yn Brif Weinidog yn swyddogol fis nesaf.
Mae disgwyl iddi ddweud: “Mae’n amlwg o isetholiadau diweddar yn Lloegr fod gwleidyddiaeth gwrth-Ewrop UKIP ar i fyny.
“Mae refferendwm mewn/allan ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn 2017 yn ymddangos yn anochel bellach – waeth bynnag pwy sy’n ennill yr etholiad cyffredinol fis Mai nesaf.”
Mae’n dadlau y gallai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd, er gwaetha’r ffaith y gallai’r Alban bleidleisio o blaid aros.
Ychwanegodd na fyddai modd amddiffyn y fath ganlyniad “annemocrataidd”.