Mae bridiwr cŵn oedrannus wedi’i ganfod yn euog o lofruddio’i wraig a’i merch hithau yn ei gartref yn Swydd Surrey.

Cafodd Christine Lee, 66, a’i merch Lucy Lee, 40, eu saethu gan John Lowe, 82, gyda dryll yr oedd yn ei ddefnyddio i ladd llygod mawr.

Dywedodd Lowe wrth Lys y Goron Guildford fod marwolaeth y ddwy ym mis Chwefror yn “ddamwain ofnadwy”.

Fe fu ffrae wrth i’r ddwy geisio tynnu’r dryll oddi arno wrth iddo fynd allan i saethu ei gŵn.

Ond penderfynodd y rheithgor ei fod yn euog o lofruddiaeth wedi iddyn nhw glywed fod Lowe wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi lladd y ddwy am eu bod nhw wedi bod yn ffraeo â’i gilydd “ers wythnosau”.

Clywodd y llys fod Lucy Lee wedi ffonio 999 gan ddweud bod Lowe wedi lladd ei mam, a’i bod am herio Lowe i ollwng y dryll.

Cafodd hithau ei saethu ddwywaith.