Mae Cylch yr Iaith wedi galw ar ddau gyngor sir i herio Llywodraeth Cymru trwy wrthod gweithredu Cynlluniau Datblygu Lleol sy’n gosod ffigurau ar gyfer codi tai newydd.

Er bod cynghorau sir Ceredigion a Gwynedd – y naill wedi’i reoli gan Blaid Cymru a’r llall gan Blaid Cymru a grŵp Annibynnol – wedi gwrthod herio’r Llywodraeth hyd yn hyn, maen nhw wedi cefnogi galwad cynhadledd Plaid Cymru dros y penwythnos i edrych eto ar gynlluniau sy’n cael eu beirniadu am hybu mewnfudo a gwneud niwed i’r Gymraeg.

Caiff Cynlluniau Datblygu Lleol eu creu gan gynghorau sir i amlinellu sut y dylid datblygu tir.

Mewn datganiad, dywedodd Cylch yr Iaith y “buasai rhywun wedi disgwyl i arweinwyr y ddau gyngor ystyried goblygiadau penderfyniad Cynhadledd Plaid Cymru yn gyntaf gyda Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru ar y naill gyngor a’r llall” cyn gwrthod diddymu eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Maen nhw’n galw ar y cynghorau i “ddefnyddio’u prosesau democrataidd i gynnal trafodaeth fewnol lawn, gan roi cyfle nid yn unig i’r pwyllgorau perthnasol a’r cabinet ystyried y mater, ond hefyd y cyngor llawn”.

Ychwanega Gylch yr Iaith: “Dyma fater sy’n amlwg yn ymwneud yn uniongyrchol â dyfodol y Gymraeg yn ein cymunedau.

“Gyda Llywodraeth Cymru mor amharod i roi statws cynllunio i’n hiaith, pwy sy’n mynd i’w gwarchod? Gofynnwn i’r cynghorau herio Llywodraeth Cymru.”

Mewn ymateb i’r galwadau, mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn orfodol yng Nghymru a’u bod nhw’n barod i gymryd rheolaeth drostyn nhw pe bai  “awdurdodau cynllunio lleol yn methu â bodloni eu dyletswydd statudol”.

‘Dim bai ar Wynedd na Cheredigion’

Arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, Neil McEvoy wnaeth y cynnig yn y gynhadledd bod y Blaid yn mabwysiadu’r polisi o alw am ddiddymu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Ond mae wedi dweud wrth golwg360 nad yw’n beio Cynghorau Gwynedd na Cheredigion am barhau i baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol.

“Mae’n rhaid i bobol sylweddoli nad oes ganddyn nhw’r grym,” meddai McEvoy.

“Yr oll mae llywodraeth leol yn ei wneud yw gweithredu polisi cenedlaethol.

“Felly’r rheswm dros basio polisi yn y gynhadledd yw er mwyn i criw’r Blaid yn y Cynulliad gyflwyno cynnig yn y Senedd i ddileu’r Cynlluniau Datblygu Lleol, neu i ddiwygio’r Bil Cynllunio i wneud yr un peth.”