Rhosneigr
Mae ffigyrau newydd wedi dangos bod saith o gymunedau arfordirol Cymru yn cynnwys dros 20% o dai oedd yn wag am fwyafrif y flwyddyn yn 2011.

Mae’r dadansoddiad newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ddata Cyfrifiad 2011 wedi edrych yn fanwl ar bob cymuned arfordirol gyda phoblogaeth o fwy na 1,000 o bobl.

Roedd 56 o gymunedau yng Nghymru’n rhan o’r dadansoddiad.

Roedd 43% o dai pentref Rhosneigr ym Môn fel arfer yn wag yn 2011 gyda Threarddur, hefyd ar Ynys Môn, yn ail gyda 34%.

Hefyd gyda dros 20% o dai heb breswylwyr cyson oedd Saundersfoot (28%) yn Sir Gaerfyrddin, Dinbych y Pysgod (25%) a Thŷ Ddewi (22%) yn Sir Benfro a Harlech (24%) a Phorthmadog (21%) yng Ngwynedd.

Diweithdra

Arwahân i ddinas Bangor, roedd poblogaeth pob cymuned oedd yn rhan o’r dadansoddiad yn cynnwys dros 94% o bobl o ethnigrwydd gwyn, o’i gymharu â 86% ar gyfartaledd dros Gymru a Lloegr.

Mae’r ffigyrau hefyd yn ei gwneud hi’n amlwg nad yw mewnfudo o dramor wedi effeithio llawer ar gymunedau arfordirol Cymru gyda mwy na 90% o’r rhai sy’n byw ym mhob cymuned, arwahân i Fangor, wedi cael eu geni ym Mhrydain.

Yn 2011, roedd chwech o’r cymunedau gyda dros 10% o ddiweithdra gan gynnwys Bangor, Y Bermo, Caergybi, Aberdaugleddau, Doc Penfro a’r Rhyl.