Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru Robbie Savage yn cael ei anrhydeddu ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam heddiw.
Ers rhoi’r gorau i yrfa oedd yn cynnwys cyfnodau gyda Chaerlŷr, Man U a Blackburn Rovers, mae’r penmelyn chwareus yn ennill ei fara menyn yn dadansoddi’r gêm ar Match of the Day a BT Sport.
Wedi ei fagu yn Wrecsam, bydd Robbie Savage yn cael ei urddo’n gymrodor er anrhydedd yn Neuadd William Aston y brifysgol y prynhawn yma.
“Mae’r gydnabyddiaeth am fy ngwasanaeth i’r byd chwaraeon yn syrpreis hyfryd,” meddai’r dyn oedd yn ddadleuol ar y cae ond sydd fwy felly ers cychwyn ei yrfa sylwebu.
“Hwyrach fy mod i yn ‘Mr Marmite’ ond rydw i wedi parhau i fod yn benderfynol, uniongyrchol ac wedi chwysu gwaed a cholli dagrau tros y gêm rwy’n ei charu.”
Robbie yn 40
Mae’r seremoni radio cyn cyd-daro â dathliadau Robbie Savage yn 40 oed.
Yn ystod ei 17 mlynedd yn chwarae pêl-droed yn broffesiynol, mi chwaraeodd 39 o weithiau i Gymru a 631 o gemau i chwe chlwb gwahanol.
Ers ymddeol mae wedi codi arian at achosion da gan gynnwys trechu Alan Shearer mewn her eistedd ar bob un o’r 45,000 o seddi yn Wembley.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr, yr Athro Michael Scott: “Mae Robbie yn Wrecsam o’i gorun i’w sawdl ac felly’r ydym ar ben ein digon ei fod yn derbyn yr anrhydedd hwn.”