Nicola Sturgeon yn gynt y mis yma (Llun: PA)
Fe fydd Nicola Sturgeon yn gweithio i greu “undod” a chreu’r teimlad fod gan yr Alban “achos cyffredin” i’w ymladd, pan fydd hi’n cael ei phenodi’n Brif Weinidog benywaidd cynta’r wlad fis nesaf.

Y disgwyl yw y bydd yn defnyddio’i rali gyntaf ers dod yn arweinydd i bwysleisio’i chred mewn annibyniath, ond gan addo “canolbwyntio ar y gwaith o’i blaen” o lywodraethu’r Alban.

Fe fydd hi hefyd yn annog ei phlaid, yr SNP – sydd wedi gweld ei aelodaeth yn treblu ers y refferendwm fis diwethaf – i wynebu’r cyfleoedd sydd o flaen yr Alban, gyda phwerau ychwnaegol ar eu ffordd i Holyrood.

Cyfres o ralïau

Mae’r rali yng Nghaeredin heddiw’n rhan o gyfres o gyfarfodydd tebyg ar ôl iddi gael ei dewis yn ddiwrthwynebiad i ddilyn Alex Salmond yn arweinydd yr SNP ac, felly, fwy na thebyg, yn Brif Weinidog yr Alban.

Fe ymddiswyddodd ef ar ôl methiant yr ymgyrch annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi – Nicola Sturgeon oedd ei ddirprwy.

Ond mae ei gwrthwynebwyr gwleidyddol hefyd wedi ymosod – y Ceidwadwyr yn dweud ei bod yn “dawnsio ar ben pin” i gadw annibyniaeth yn fyw ac arweinydd dros dro’r Blaid Lafur yn yr Alban, Anas Sarwar, yn dweud ei bod wedi bod mewn llywodraeth am ddeng mlynedd a welodd gynnydd mewn anghydraddoldeb, llai o lefydd mewn colegau ac argyfwng i’r Gwasanaeth Iechyd.