Llun yr Asiantaeth Ffiniau yn dangos arestio mewnfudwr anghyfreithlon
Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain wedi cydnabod nad oes gan y Deyrnas Unedig ddim rheolaeth tros fewnfudo.
Fe ddywedodd y Gweinidog Sgiliau, Nick Boles, ei bod yn bosib na fyddai byth yn bosib atal pobol rhag symud o wlad i wlad o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Ychwanegodd y byddai gwledydd Prydain yn parhau i ddenu nifer sylweddol o fewnfudwyr bob blwyddyn tra bod yr economi’n parhau i fod yn un o economïau mwya’ blaenllaw Ewrop.
‘Anghyfreithlon’
Yn ôl Nick Boles, y cyfan y mae ymgyrch “lym” y Ceidwadwyr wedi ei wneud yw tynnu sylw pleidleiswyr nad oes modd rheoli’r broblem yn iawn.
Ar un adeg y mis hwn, roedd hi’n ymddangos bod Prif Weinidog Prydain yn ystyried defnyddio rhifau yswiriant cenedlaethol i gyfyngu ar fewnfudo ond, yn ôl uchel swyddogion Ewropeaidd, fe fyddai hynny’n anghyfreithlon.
Ddoe, roedd Maer dinas Calais yn Ffrainc wedi rhybuddio bod trefniadau budd-daliadau gwledydd Prydain yn denu mewnfudwyr.