Mae mwy na 26,000 o bobol sydd ar fechnïaeth, gan gynnwys treiswyr a phedoffiliaid posib, wedi llwyddo i ddianc yn ystod y tair blynedd ddiwethaf – a hynny dim ond yn ardal Llundain.
Dywedodd aelod o Gymdeithas y Swyddogion Carchar bod y ffigurau yn arswydus a bod gorlenwi carchardai yn golygu bod pobol yn cael eu rhoi ar fechnïaeth oherwydd diffyg lle.
Fe gafodd y ffigurau eu cyhoeddi ym mhapur y Daily Mirror heddiw, ar ôl cais rhyddid gwybodaeth.
‘Gostyngiad’ meddai’r Llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain eu bod nhw wedi ymrwymo i wneud eu gorau i ddod â throseddwyr gerbron llysoedd yn gyflym.
Ddoe datgelwyd bod 77 o garcharorion sydd wedi dianc o garchardai Prydain yn y 10 mlynedd diwethaf yn dal i fod yn rhydd.
Mae nifer y carcharorion sy’n dianc wedi gostwng 80% dros y 10 mlynedd diwethaf, tn ôl y Gweinidog Cyfiawnder, Simon Hughes – ei swyddfa ef oedd wedi rhoi’r ffigurau.