Mae dau ddyn ac un ddynes wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Cernyw.
Cafodd heddlu Dyfnaint a Chernyw eu galw gan Wylwyr y Glannau ar ôl adroddiadau bod saith o bobl mewn trafferthion yn y dŵr gerllaw traeth Mawgan Porth yn nhref Newquay.
Aed â thri a oedd yn anymwybodol o’r môr i ysbyty am driniaeth, lle cadarnhawyd yn ddiweddarach eu bod wedi marw.
Dydyn nhw ddim wedi cael eu hadnabod eto ac mae’r heddlu’n chwilio am eu teuluoedd.
Mae’r pedwar arall yn saff.
Meddai’r Uwcharolygydd Jim Pearce o Heddlu Dyfnaint a Chernyw: “Mae hwn yn ddigwyddiad trychinebus ac estynnwn ein cydymdeimlad â theuluoedd y rhai fu farw.
“Ynghyd â’r gwasanaethau brys eraill, rydym wrthi’n ceisio darganfod amgylchiadau llawn y digwyddiad a’n blaenoriaeth yw cysylltu â’r teuluoedd a chynnig hynny o gymorth ag y gallwn.”