Gweithwyr mewn canolfan alwadau (llun: PA)
Gall cwmnïau sy’n peri niwsans parhaus gyda galwadau ffôn i farchnata eu nwyddiau wynebu dirwyon o hyd at £500,000 o dan gynlluniau newydd gan y Llywodraeth.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant yn San Steffan, Sajid Javid, yn awyddus i newid diffiniadau cyfreithiol er mwyn sicrhau bod ymddygiad annerbyniol yn cael ei gosbi.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i’r Comisiynydd Gwybodaeth brofi bod ymddygiad cwmni wedi achosi “difrod sylweddol neu ofid sylweddol”.

Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch gostwng y trothwy i achosi “niwsans, anghyfleustra neu ofid”.

“Mae cael eich aflonyddu gan alwadau a negeseuon testun marchnata yn niwsans ar y gorau,” meddai’r Gweinidog Cyfiawnder Simon Hughes. “Ond ar ei waethaf gall ddod â diflastod gwirioneddol i’r bobl sy’n dioddef hyn – ac mae’r Llywodraeth yn benderfynol o fynd i’r afael â’r broblem.”