Y cyn-brif weinidog Tony Blair
Mae’r cyn-brif weinidog Tony Blair wedi gwadu iddo fynegi amheuon am ragolygon etholiadol arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, mewn cyfarfod preifat.
Yn ôl ffynonnell o’r cyfarfod o ffigurau blaenllaw o’r Blaid Lafur yn gynharach y mis yma, roedd Tony Blair wedi dweud mai’r Ceidwadwyr fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf, gan fod Llafur wedi methu â chyflwyno’i hachos.
“Nid yw Tony yn meddwl y gall Milband guro Cameron,” meddai’r ffynhonnell wrth bapur newydd y Daily Telegraph.
Ond mewn datganiad, dywed Tony Blair heddiw:
“Nid yw’r stori yn y Telegraph yn adlewyrchu fy marn. Fe all, ac fe fydd, Ed Miliband a’r Blaid Lafur yn ennill yr etholiad nesaf.”