Alex Salmond (PA)
Mae Alex Salmond wedi cyfaddef ei fod yn ystyried ceisio dychwelyd i San Steffan fel Aelod Seneddol, wrth iddo baratoi i roi’r gorau i swydd Prif Weinidog yr Alban.

Dywedodd arweinydd yr SNP ar raglen Question Time nad oedd wedi penderfynu eto ble byddai ei ddyfodol gwleidyddol.

Fe gyhoeddodd Salmond yn syth ar ôl refferendwm annibyniaeth yr Alban fis diwethaf y byddai’n rhoi’r gorau i fod yn arweinydd ei blaid ac yn Brif Weinidog yr Alban.

Mae disgwyl i’w ddirprwy Nicola Sturgeon gael ei dewis i gymryd lle Salmond yn arweinydd yng nghynhadledd yr SNP yn Perth ym mis Tachwedd.

Dimbleby’n holi

Nid dyma fyddai’r tro cynta’ i Alex Salmond symud o Gaeredin i sedd yn San Steffan.

Fe fu’n Aelod Seneddol i’r SNP yn San Steffan dros sedd Banff a Buchan rhwng 1987 a 2010 ac fe roddodd y gorau i fod yn arweinydd ei blaid yn 2000.

Fe ddaeth yn ôl yn arweinydd y blaid yn 2004 ac yna cael ei ailethol i Senedd yr Alban yn 2007 gan ddod yn arweinydd ar lywodraeth leiafrifol.

‘Heb benderfynu’

Ar raglen Question Time y BBC neithiwr fe ofynnodd y cyflwynydd David Dimbleby wrth Salmond a fyddai’n ystyried dychwelyd i San Steffan ar ôl rhoi’r gorau i fod yn arweinydd yr SNP.

“Yr ateb i’ch cwestiwn, David, yw y galla’ i ddweud yn bendant nad ydw i wedi penderfynu. Felly bydd rhaid i chi aros a gweld,” meddai Salmond.

“Ond pan ydw i’n gwneud y penderfyniad, gwahoddwch fi nôl ar Question Time ac mi ddyweda’ i wrthych chi pam wnes i hynny.”

Aros yn MSP

Dywedodd Salmond, fodd bynnag, y byddai’n cynnig parhau yn Aelod Seneddol Albanaidd Dwyrain Aberdeenshire o leia’ tan etholiadau nesa’ Holyrood yn 2016.

Bydd yr Etholiad Cyffredinol nesa’ ar gyfer San Steffan ym mis Mai 2015, gyda pholau piniwn ar hyn o bryd yn awgrymu y gallai’r SNP ennill eu nifer fwyaf erioed o seddi yno.