David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain yn addo gwrthwynebu bil ychwanegol o £1.7 biliwn sydd wedi dod gan yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd David Cameron yn protestio yn erbyn y taliad yn uwch gyhadledd yr Undeb ym Mrwsel, gan ddweud ei fod yn cosbi gwledydd Prydain am wneud yn dda.

Mae’r Undeb ei hun yn mynnu bod y bil fel talu treth incwm – yn codi os ydych chi’n ennill mwy.

Y cefndir

Gwledydd Prydain a’r Iseldiroedd sy’n wynebu’r biliau ychwanegol mwya’, wrth i’r Comisiwn Ewropeaidd edrych eto ar ffigurau ariannol yr aelodau.

Mae’r cyfraniad yn cael ei seilio ar berfformiad economaidd y gwledydd ac, yn ôl swyddogion, mae economi gwledydd Prydain wedi cryfhau ers y tro diwetha’ iddyn nhw ystyried y mater.

Mae’r taliad yn ychwanegiad o bron 20% at gyfraniad arferol gwledydd Prydain ond fe fydd gwledydd fel yr Almaen, Ffrainc a Gwlad Pwyl yn cael ad-daliadau sylweddol.

Fe fydd y pwysau gwleidyddol yn anferth, gan fod disgwyl i’r bil gael ei dalu o fewn dyddiau i is-etholiad Rochester a Strood, lle mae’r Ceidwadwyr dan bwysau gan blaid wrth-Ewropeaidd UKIP.

Gwrthwynebu

Y disgwyl yw y bydd David Cameron yn trafod gyda Phrif Weinidog yr Iseldiroedd i weld a oes modd gwrthwynebu’r cyfraniad.

“Dyw hi ddim yn dderbyniol newid y ffioedd o flynyddoedd blaenorol a gofyn amdanyn nhw heb fawr ddim rhybudd,” meddai llefarydd yn Downing Street.

“Doedd y Comisiwn Ewropeaidd ddim yn disgwyl yr arian yma a does dim angen yr arian yma arno. Fe fyddwn ni’n gweithio gyda gwledydd eraill sydd wedi eu heffeithio i wneud popeth allwn ni i herio hyn.”