Leanne Wood yn annerch yn y gynhadledd y llynedd
Fe fydd arweinydd Plaid Cymru yn hawlio bod ganddyn nhw, yr SNP yn yr Alban a’r Gwyrddion y cyfle i benderfynu pwy fydd y llywodraeth nesa’ yn San Steffan.
Ac mae Leanne Wood yn mynnu mai’r refferendwm yn yr Alban sydd wedi ysgwyd y drefn wleidyddol yng ngwledydd Prydain, nid y blaid wrth-Ewropeaidd, UKIP.
Fe fydd yn dweud wrth gynhadledd hydref Plaid Cymru yn Llangollen heddiw y bydd Plaid Cymru yn gwneud y gorau o’r cyfle i ddal y fantol yn San Steffan wedi’r Etholiad Cyffredinol nesa’.
Senedd grog
“Mae’n debyg iawn y bydd senedd grog ar ôl yr etholiad,” meddai Leanne Wood, mewn dyfyniadau o’i haraith sydd wedi eu cyhoeddi ymlaen llaw.
“Fe ddywedon ni cyn etholiad 2010 mai dyna fyddai’r achos. Mae pobol yn fwy tebyg o wrando arnon ni y tro nesa’.
“Bydd Plaid Cymru’n gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw o ddal mantol grym gyda’n cyfeillion yn yr SNP a’r Gwyrddion.”
Dal y fantol?
Dim ond tair sedd seneddol sydd gan Blaid Cymru ar hyn o bryd, tra bod gan yr SNP chwech a’r Gwyrddion un.
Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage, hefyd wedi awgrymu y gallai eu plaid nhw ddal y fantol – os byddan nhw’n ychwanegu at yr un AS sydd ganddyn nhwthau.
Fel UKIP, mae Leanne Wood yn dweud bod trefn San Steffan wedi torri, ond fe fydd ei hatebion yn wahanol iawn gan alw am ddatganoli grymoedd heddlu a throseddu i Gymru, gwell amodau ariannol i’r wlad a newid mawr o ran economi a gwleidyddiaeth.
Fe fydd yn ymosod ar lywodraeth y glymblaid yn Llundain am y toriadau gwario ac yn awgrymu hefyd bod Llafur yn hapus i adael i’r problemau yng Nghymru fod, er mwyn cryfhau eu brwydr yn erbyn y Ceidwadwyr yn San Steffan.
Leanne Wood a’r toriadau
Dyma’r dyfyniadau allweddol o’i haraith ynglŷn â’r ecomomi …
“Beth mae’r arbrawf cyni wedi ei gyflawni mewn gwirionedd? Mwy nag erioed o bobol yn dibynnu ar fanciau bwyd, pobol sy’n wael a’r rhai ag anableddau wedi eu dychryn i gymryd profion mynd yn ôl i waith.
“Blynyddoedd o doriadau cyflog neu rewi cyflog yn rhoi pwysau ar gyllidebau pobol, cau asedau cymunedol fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden a dileu gwasanaethau rheng flaen eraill – ac eto dyw llyfrau’r llywodraeth ddim yn cydbwyso.
“Mae dyled y Deyrnas Unedig tros £1.45 triliwn ac mae’n codi. Ymhlith yr ychydig bethau sy’n ôl i’w lefelau cyn y dirwasgiad mae taliadau bonws a thwf yn y sector ariannol – gwobrau i’r union bobol a achosodd y problemau yn y lle cynta’.”