Mark Serwotka
Mae Mark Serwotka wedi cael ei ailethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y gweision sifil, y PCS yn ddiwrthwynebiad.
Doedd dim ymgeisydd arall am sefyll yn erbyn y Cymro o Aberdâr, sy’n cael ei ystyried yn un o ffigurau asgell chwith amlyca’r mudiad Llafur.
Ac fe dderbyniodd y swydd eto gydag ymosodiad nodweddiadol ar y Llywodraeth am ei pholisi toriadau.
Gyrfa Serwotka
Fe fu Serwotka yn flaenllaw yn y frwydr i amddiffyn y sector cyhoeddus a hynny yn erbyn llywodraethau Llafur a Cheidwadol ac mae e wedi trefnu cyfres o streiciau yn erbyn y llywodraeth glymblaid bresennol.
Dechreuodd ei yrfa yn gweithio mewn swyddfa fudd-daliadau am ddau ddegawd, cyn cael ei ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS am y tro cyntaf yn 2000, ac yna’i ail-ethol yn 2005 a 2009.
Fe fydd yn cadw’r swydd am bum mlynedd arall.
Meddai Mark – ei ddatganiad wrth dderbyn y swydd
“Braint o’r mwya’ yw cael fy ailethol ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’n haelodau ac eraill i barhau’r frwydr yn erbyn obsesiwn creulon, niweidiol a diangen y llywodraeth hon gyda llymder.
“Er gwaetha’ ymdrechion gweinidogion i’n tanseilio ni, mae PCS yn parhau i fod yr un mor fywiog ag erioed ac rwy’n falch o gael bod yn rhan o undeb sy’n gwrthwynebu toriadau creulon i safon bywydau a’n gwladwriaeth les.”