Alvin Stardust yn 2000
Mae’r canwr a’r actor Alvin Stardust wedi marw’n 72 oed yn dilyn salwch byr.

Roedd wedi cael diagnosis o ganser y brostad yn ddiweddar a bu farw yn ei gartref yn Sussex gyda’i wraig a’i deulu o’i gwmpas.

Roedd Stardust – neu Bernard Jewry – wedi dechrau ei yrfa yn y 1960au o dan yr enw Shane Fenton ond fe ddaeth i amlygrwydd yn ystod cyfnod ‘Glam Rock’ y 1970au o dan ei enw newydd Alvin Stardust.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am y caneuon ‘My Coo Ca Choo’, ‘Jealous Mind’ a ‘I Feel Like Buddy Holly’

Roedd hefyd wedi ymddangos mewn cynyrchiadau ar lwyfan gan gynnwys Godspell, The Phantom of the Opera a Chitty Chitty Bang Bang.

Yn ol ei wefan, roedd ar fin rhyddhau ei albwm gyntaf ers 30 mlynedd.

Bu’n briod dair gwaith – ei ail wraig oedd yr actores Liza Goddard, a’i drydedd wraig oedd Julie Paton, actores a choreograffydd o Abertawe.