Clawr un o nofelau Rhiannon Davies Jones, Adar Drycin
Mae’r awdures Rhiannon Davies Jones, enw blaenllaw ymysg nofelwyr hanesyddol Cymru, wedi marw yn 92 oed.
Bu farw yn yr ysbyty ar ol salwch hir.
Yn wreiddiol o Lanbedr, yn Ardudwy, fe enillodd y Fedal Ryddiaith dwywaith – yn 1960 am ei nofel Fy Hen Lyfr Cownt ac yn 1964 am ei gwaith Lleian Llanllŷr.
Yn ystod ei gyrfa, fe ysgrifennodd 10 nofel ynglŷn â chyfnodau o hanes Cymru gan gynnwys Dyddiadur Mari Gwyn (1985), Llys Aberffraw (1977), Eryr Pengwern (1981) ac Adar Drycin (1993).
Y mae hefyd wedi cyhoeddi storiâu byrion a chasgliad o hwiangerddi gwreiddiol i blant.
Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor, a bu’n athrawes yn Ysgol Ramadeg Rhuthun cyn symud i swydd mewn Coleg yng Nghaerllion.