Ched Evans
Mae’r BBC wedi ymddiheuro wedi i’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd Michael Buerk feirniadu’r ferch a gafodd ei threisio gan Ched Evans am fod yn feddw.

Mewn hysbyseb ar gyfer rhaglen Moral Maze ar Radio 4, dywedodd Buerk fod enwau Evans a’r ferch wedi cael eu pardduo gan fod hithau mor feddw “nes ei bod hi braidd yn gallu sefyll”.

Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu’r sylwadau gan ddweud bod yr hysbyseb yn “niweidiol” ac yn “sarhaus dros ben”.

Cafodd y pêl-droediwr Evans ei ryddhau o’r carchar ddydd Gwener wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo.

Cafwyd Evans, fu’n chwarae i Sheffield United, yn euog o dreisio’r ddynes 19 oed mewn gwesty yn y Rhyl.

Dywedodd llefarydd ar ran Radio 4 nad oedd bwriad i honni bod y ddynes ar fai am yr hyn ddigwyddodd.

Bydd y rhaglen sy’n cael ei darlledu am 8pm heno yn trafod a ddylai Evans gael dychwelyd i’r byd pêl-droed.

‘Amhriodol’

Yn yr hysbyseb, dywedodd Michael Buerk, “Does neb yn dod allan o achos treisio Ched Evans gydag enw da – yr un oedd wedi dioddef ac a oedd wedi yfed cymaint nes ei bod hi braidd yn gallu sefyll, na’r ddau bêl-droediwr oedd wedi cael rhyw â hi o dan yr amgylchiadau mwyaf ffiaidd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Rape Crisis yng Nghymru a Lloegr fod sylwadau’r cyflwynydd yn “ofnadwy” ac yn “amhriodol”.

Dywedodd fod sylwadau o’r fath yn cyfrannu at y ffaith mai 15% yn unig o fenywod sy’n cael eu treisio sy’n mynd at yr heddlu.

Mae achos Evans wedi hollti barn y cyhoedd, gyda rhai yn dadlau y dylid ei groesawu’n ôl i’r byd pêl-droed ac eraill yn dadlau y dylid gwneud esiampl ohono trwy ei wahardd rhag dychwelyd i’r cae.