Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Mae Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas, wedi bod yn gweld yr arddangosfa a’r cyfleusterau addysgol newydd yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe, cyn i’r drysau ail-agor yn swyddogol i’r cyhoedd wythnos nesaf.

Bydd yr arddangosfa yn agor mewn pryd i nodi canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas ar 27 Hydref.

Wrth siarad am arwyddocâd y Ganolfan, dywedodd Hannah Ellis: “Mae ailddatblygiad arddangosfa Canolfan Dylan Thomas o bosib, yn un o’r prosiectau etifeddiaeth mwyaf sydd wedi dod allan o flwyddyn canmlwyddiant enedigaeth fy nhad-cu.

“Mae’n holl bwysig i mi fod Cyngor Sir a Dinas Abertawe yn diogelu’r etifeddiaeth hwn ac yn gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad yma.”

Grant

Yn sgil grant o £935,700 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae Arddangosfa Dylan Thomas wedi yn cael ei ailddatblygu gan ganiatáu i eitemau unigryw gael eu harddangos – gan gynnwys rhestr siopa wedi’i baratoi ar gyfer taith deuluol i America yn 1953.

Mae’r grant hefyd wedi galluogi i ofod addysgol gael ei ddatblygu yno.

“Fel canolbwynt rhyngwladol ar gyfer Dylan Thomas, roedd yn hollbwysig bod yr arddangosfa’n cael ei adfywio ar gyfer cynulleidfaoedd modern ac mae’r grant hwn wedi sicrhau bydd yr arddangosfa ar agor unwaith yn rhagor ar gyfer prif ddathliadau’r canmlwyddiant a Gŵyl Dylan Thomas sydd ar ddod,” meddai Dr Manon Antoniazzi, Cadeirydd Pwyllgor Cymru CDL.

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi croesawu ail-agoriad yr arddangosfa.