Cast SXTO yn perfformio
Mae’r broblem o bobl ifanc yn ‘secstio’ wedi gwaethygu yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl cyfarwyddwraig drama sydd yn delio â’r pwnc.

Yr wythnos hon fe fydd Theatr Arad Goch yn dechrau ar daith newydd o’r ddrama SXTO, gan berfformio mewn ysgolion yng Ngheredigion ac yna lleoliadau ar draws Cymru yn ystod y mis nesaf.

Cafodd y cynhyrchiad ei berfformio am y tro cyntaf yn 2011, gyda Bethan Gwanas yn sgriptio ac Angharad Lee yn cyfarwyddo, ac maen nhw nawr wedi derbyn cais i berfformio’r ddrama unwaith eto.

Testun y ddrama yw ‘secstio’ – anfon lluniau rhywiol at rywun drwy ffôn symudol – ymysg pobl ifanc, gyda rhybudd am y peryglon o weld y lluniau hynny’n cael eu rhannu’n ehangach.

Snapchat

Mae’r gyfarwyddwraig yn cyfaddef mai un o’r rhesymau am ailberfformio’r ddrama yw bod y broblem yno o hyd, ac wedi gwaethygu yn sgil datblygiadau technolegol.

Un o’r newidiadau diweddar yw ap Snapchat, ble mae pobl yn medru anfon lluniau at eraill sydd dim ond yn ymddangos ar y sgrin am rai eiliadau.

“O ran yr addasiad fi’n credu mai’r dechnoleg a’r eirfa sydd wedi newid, ond dyw thema’r darn ddim yn newid o gwbl,” meddai Angharad Lee wrth golwg360.

“Maen nhw’n defnyddio Snapchat nawr yn lle tecst, pethe bach fel ‘na, ond mae’r plant yn dala ti mas yn syth bin [os nad yw wedi’i ddiweddaru].

“Yn bendant fi’n credu bod [y broblem o secstio] wedi mynd yn waeth os rhywbeth, felly mae’n grêt bod y perfformiad yma’n mynd mas eto.”

Problem newydd

Yn ôl arolwg diweddar gan elusen wrth-fwlio mae 62% o bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed wedi profi rhyw fath o drais trwy ap ar eu ffôn, ac roedd 37% – y rhan fwyaf yn ferched – yn dweud eu bod nhw wedi anfon llun noeth o’u hunain ar neges destun.

Fodd bynnag dywedodd 49% o bobl ifanc yn yr arolwg mai hwyl ddiniwed yw secstio, er bod 22% o’r rhai sydd wedi profi’r trais ar-lein yn dweud eu bod nhw wedi troi at hunan niweidio.

Yn ôl Angharad Lee mae’r oes wedi newid mor sydyn nes bod pobl ifanc heddiw ddim yn cael y cyfle i bwyllo a meddwl am beth maen nhw’n ei wneud.

“Blynydde nôl taswn i ishe tynnu llun noeth o’n hunan bydden ni wedi tynnu llun Polaroid, rhoi e mewn amlen, rhoi’n enw ar yr amlen a phostio fe – mae ‘na dri neu bedwar proses yn fanna ble mae’n feddylfryd i’n mynd i’ stopio i,” esboniodd cyfarwyddwraig SXTO.

“Ond achos bod y dechnoleg nawr mor glou, ac yn glouach fyth gyda’r Snapchat hyn … mae’r penderfyniad yn cael ei wneud yn syth bin a does dim strwythur yn ei le i stopio’r penderfyniadau ‘na, maen nhw’n mynd gyda’r impulse hyn.”

‘Oedolion yn waeth’

Dyw secstio ddim yn unig yn digwydd ymysg pobl ifanc, gyda’r esiamplau diweddar o luniau a fideos noeth enwogion megis Jennifer Lawrence a Rihanna’n cael eu datgelu ar y we.

Fe allai secstio fod hyd yn oed yn fwy cyffredin ymysg oedolion na phobl ifanc, yn ôl Angharad Lee – jyst eu bod nhw’n fwy gofalus gyda’r cynnwys.

“Fi’n credu bod oedolion yn waeth na phlant, o’r straeon fi wedi clywed dros y blynyddoedd!” meddai Angharad Lee.

“Jyst falle bod ni’n fwy discreet, os ti’n derbyn rhywbeth fel ‘na fel oedolyn chi ddim yn mynd i wneud unrhyw beth ag e.

“Ond gyda phobl ifanc mae ‘na resymau gwahanol pam fydden nhw’n gneud rhywbeth gyda’r llun, felly mae e bron fel bod y meddalwedd yn y dwylo anghywir.”

SXTO ar daith

Fe fydd y ddrama SXTO – sydd yn cynnwys yr actorion Nia Ann, Lowri Sion, Endaf Eynon Davies a Dion Lloyd Jones – nawr yn teithio o gwmpas ysgolion uwchradd Sir Geredigion cyn ymweld ag ysgolion, colegau a theatrau ledled y wlad.

Bydd y sioe’n gorffen â thri pherfformiad cyhoeddus yn Neuadd Ysgol y Berwyn, Bala (17 Tachwedd), Theatr Clwyd (18 Tachwedd) a Theatr Gartholwg (20 Tachwedd).

Ac mae cyfarwyddwr y ddrama’n gobeithio y bydd y perfformiadau, yn ogystal ag annog pobl ifanc i feddwl ddwywaith cyn anfon lluniau rhywiol, yn sbardun i ysgolion feddwl mwy am y broblem.

“Fi’n credu bod rheolau pob ysgol yn wahanol iawn,” cyfaddefodd Angharad Lee. “Achos bod hi’n broblem weddol newydd, dim ond jyst dala lan mae ysgolion ynglŷn â sut i ddelio gyda fe.”

Am fanylion ar sut i archebu tocynnau ewch i www.aradgoch.org, ac fe allwch hefyd ddarllen mwy am gefndir y ddrama ar wefan www.sxto.org.

Stori: Iolo Cheung