Mae gwasanaeth plant meithrin S4C, Cyw, a gwasanaeth plant a phobl ifanc y sianel, Stwnsh wedi derbyn enwebiadau yng ngwobrau BAFTA Plant y DU eleni.
Ddiwedd y mis, fe fydd y sianel yn cystadlu yn erbyn Cartoon Network, CBBC a CBeebies am y wobr.
Yn y categori Dysgu: Ysgol Gynradd, mae rhaglen Cyw a’r Wyddor, sy’n cael ei gynhyrchu gan Boom Kids a Cube Interactive wedi’i enwebu yn ogystal â Llandudno: A Seaside Town gan Landlines.
Mae rhaglen Madron, sydd yn rhan o arlwy gwasanaeth Stwnsh wedi ei enwebu am wobr y rhaglen ryngweithiol orau.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni fawreddog yn Llundain ar 23 Tachwedd.
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C: “Mae’n bleser clywed y newyddion da am yr holl enwebiadau ‘ma yng ngwobrau Bafta Plant.
“Mae gwasanaethau Cyw a Stwnsh yn hynod o bwysig i’r gynulleidfa ifanc a hoffwn longyfarch yr holl griwiau cynhyrchu am eu creadigrwydd wrth greu cynnwys gwreiddiol ar gyllidebau tynn. Mae darparu gwasanaethau plant yn hynod o bwysig i S4C ac mae’n fraint bod y cynnwys unigryw yma yn cael ei gydnabod gan Bafta DU.
“Y peth mwyaf pwysig wrth gwrs ydy cael cynnwys gwreiddiol mae plant yn ei fwynhau ac mae enwebiadau fel hyn yn eisin ar y gacen!”