Mae’r cwmni DIY, Homebase, wedi cyhoeddi y bydd yn cau chwarter o’i siopau o ganlyniad i ostyngiad yn ei werthiant.
Dywedodd y cwmni, sydd hefyd yn berchen ar gwmni Argos, y bydd 25% o’u 323 o siopau yn cau, sef tua 80, yn y cyfnod hyd at 2018. Mae’r cwmni eisoes yn cau 30 o’i siopau eleni.
O ganlyniad, mae dyfodol 14 o siopau Homebase yng Nghymru yn y fantol.
Cafodd arolwg o ffigyrau gwerthiant y cwmni ei gynnal yn sgil y bygythiad gan gwmnïau ar-lein a chenhedlaeth sy’n “llai medrus ym maes DIY”.
Dangosodd bod “safonau anghyson” yn siopau Homebase ac o ganlyniad mae prif weithredwr y cwmni, John Walden, wedi lansio cynllun tair blynedd yn y gobaith o “wella cynhyrchiant a chryfhau ei werthiant ar-lein.”
“Bydd hyn yn golygu bod Homebase yn gwmni llai ond cryfach,”meddai.
Mae’r gadwyn DIY yn cyflogi 19,000 o bobl ar draws eu canolfannau yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.