Mae teuluoedd pobol o wledydd Prydain sy’n cerdded yn Nepal, yn poeni amdanyn nhw yn sgil tywydd difrifol diweddar.
Mae perthnasau wedi methu cysylltu ag anturiaethwyr a allai fod wedi cael eu dal mewn stormydd sydd wedi achosi sawl cwymp eira.
Mae 29 o bobol eisoes wedi’u lladd yn ystod yr wythnos diwetha’.
Yn y cyfamser, mae’r Swyddfa Dramor wedi cyhoeddi fod teuluoedd wedi bod yn cysylltu efo nhw yn holi hynt a helynt Prydeinwyr sydd wedi teithio i Nepal.
Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref yn dweud fod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos gydag awdurdodau Nepal er mwyn sicrhau’r wybodaeth ddiweddara’.