Martin Evans
Mae smyglwr cyffuriau o Abertawe, a gafodd ei arestio’n ddiweddar yn Ne Affrica, wedi cael ei ystraddodi i wledydd Prydain.

Fe gyrhaeddodd Martin Evans faes awyr Heathrow ddoe, a’i drosglwyddo’n syth bin i fan heddlu.

Fe gafodd y dyn 52 oed ei arestio yn ninas Johannesburg ym mis Awst eleni.

Roedd Martin Evans wedi bod ar herw ers tair blynedd, wedi iddo fethu a dychwelyd i’r carchar ar ol cael ei ryddhau ar drwydded. Roedd eisoes yn treulio 21 mlynedd yng ngharchar am gynllwynio i werthu cyffuriau.