Andy Murray
Mae mam y chwaraewr tenis Andy Murray wedi dweud ei bod hi’n awyddus i gyrraedd rownd nesa’r gyfres ddawnsio boblogaidd Strictly Come Dancing fel bod modd i’w mab ddod i’w gwylio.

Mae Judy Murray yn un o’r cystadleuwyr yn y gyfres newydd ond mae hi wedi bod yn derbyn sylwadau negyddol gan y beirniaid.

Hi yw’r ffefryn i adael y gyfres heno, ond mae ei meibion Andy a Jamie, sydd hefyd yn chwaraewr tenis, wedi addo mynd i’w gwylio yn y rownd nesaf pe bai hi’n dal yno.

Bydd Murray, sydd yn 55 oed, yn rhoi cynnig ar y tango heno gyda’i phartner Anton Du Beke, ond mae’n cyfaddef ei bod hi bob amser yn barod i chwerthin wrth ddechrau dawnsio ac edrych i lygaid ei phartner.

Ychwanegodd ei bod hi am geisio cofio’r straen o wylio’i mab yn ennill Wimbledon i geisio atal y chwerthin.