Philip Hammond - 'ystyried brad'
Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Prydain yn ystyried dod â chyhuddiadau o frad yn erbyn dinasyddion Prydeinig sy’n ymladd tros y mudiad milwrol IS yn y Dwyrain Canol.
Fe ddaeth yr awgrym yn ystod y cwestiynau i’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond, yn Nhŷ’r Cyffredin.
Fe ddywedodd fod ymladdwyr tros IS yn tyngu teyrngarwch personol i’r mudiad a bod hynny’n codi cwestiynau am eu teyrngarwch i wledydd Prydain.
‘Teyrnfradwriaeth’
Fe fyddai’r Ysgrifennydd Cartref, meddai, yn ystyried a oedd yr ymladdwyr yn euog o drosedd o deyrnfradwriaeth.
Roedd Philip Hammond yn ymateb i gwestiwn gan AS Ceidwadol am agwedd y Llywodraeth at ddinasyddion a oedd bellach yn ymladd yn erbyn lluoedd Prydeinig sy’n ymosod ar IS.
Mae amheuaeth fod dynion ifanc o dde Cymru wedi mynd i Syria i ymladd tros IS, gan gynnwys un cyn fyfyriwr o Gaerdydd Reyaad Khan.