Dewis cefnogwyr o grysau i Gaerdydd (Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr)
Mae gwleidydd lleol wedi cefnogi argymhellion y Blaid Lafur i roi hawliau i gefnogwyr wrth reoli clybiau pêl-droed proffesiynol.

Yn ôl Jo Stevens, y darpar ymgeisydd Llafur yng Nghanol Caerdydd, fe fyddai llawer o gefnogwyr clwb y brifddinas hefyd yn cefnogi’r syniad.

Fe allai’r argymhellion fod wedi cryfhau llais cefnogwyr Caerdydd wrth i’r perchennog, Vincent Tan, weithredu’n groes i’w dymuniadau a newid lliwiau a logo’r clwb.

Y cynigion

Fe fydd Llafur yn ymgynghori ar y syniadau i roi hawliau newydd i gefnogwyr, ar yr amod eu bod yn ffurfio ymddiriedolaethau swyddogol.

  • Fe fyddai’r rheiny wedyn yn cael yr hawl i hyd at chwarter o’r seddi ar fwrdd cyfarwyddwr unrhyw glwb, a dim llai na dwy o’r llefydd.
  • Fe fyddai gan yr ymddiriedolaethau hawl i brynu 10% o randdaliadau clwb wrth iddo newid dwylo.
  • Yn ôl Llafur, fe fyddai hynny’n golygu bod cefnogwyr yn gallu dal perchnogion i gyfrif tros faterion ar y cae ac oddi arno, gan gynnwys lliwiau crysau ac enw.

Meddai Jo Stevens

“Mae pêl-droed yn fwy na busnes,” meddai Jo Stevens. “Mae Llafur yn credu mewn rhoi llais i gefnogwyr yn stafell y bwrdd, fel bod grym a chyfrifoldeb yn cael eu rhannu.”

Mae clybiau mawr eraill Cymru – Abertawe, Casnewydd a Wrecsam – eisoes yn cael eu rheoli i raddau gan y cefnogwyr.