Ched Evans yn chwarae i Gymru
Mae adroddiadau fod y chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, Ched Evans, wedi gadael y carchar ar ôl gwneud hanner ei ddedfryd am dreisio gwraig ifanc.
Yn ôl llygaid dystion, roedd cerbyd 4×4 arian wedi’i weld yn casglu dyn o Garchar Wymott yn Leyland, Sir Gaerhirfryn.
Fe gafodd y blaenwr 25 oed ei garcharu am bum mlynedd ym mis Ebrill 2012 am dreisio gwraig 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl.
Dadlau am ei ddyfodol
Mae yna ddadlau wedi bod ers wythnosau a ddylai’r Cymro gael chwarae pêl-droed proffesiynol eto – i’w glwb Sheffield United neu i Gymru.
Fe gafodd deiseb ei threfnu yn galw ar i’r clwb wrthod ei ailarwyddo ond mae eraill – gan gynnwys cymdeithas y peldroedwyr – yn dadlau ei fod wedi talu’r pris am ei drosedd.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, sy’n un o aelodau seneddol Sheffield, wedi dweud bod rhaid i’r clwb ystyried yn ofalus cyn ailgyflogi Evans.
Roedd Ched Evans wedi gwadu’r cyhuddiadau gwreiddiol.
Pleidlais
Mae Golwg360 yn cynnal pleidlais i gael barn darllenwyr – a ddylai chwarae eto ai peidio?