Aaron Ramsey
Mae disgwyl y bydd chwaraewr canol cae Cymru Aaron Ramsey’n holliach ar gyfer gêm ragbrofol Cymru yng Ngwlad Belg fis nesaf, wrth iddo baratoi i ddychwelyd i Arsenal.
Dywedodd rheolwr y Gunners Arsene Wenger ei fod yn disgwyl i Ramsey fod yn ymarfer yn llawn eto ddydd Llun, ar ôl tair wythnos allan ag anaf i linyn y gâr.
Fe allai hyd yn oed deithio gyda’r tîm i Frwsel i herio Andrelecht yng Nghwpan y Pencampwyr yr wythnos nesaf – yr un ddinas y bydd Cymru’n teithio iddi ymhen mis.
Fe fydd hynny’n hwb mawr i reolwr Cymru Chris Coleman oedd wedi gorfod gwneud heb Ramsey, Joe Allen a naw chwaraewr arall ar gyfer y ddwy gêm ddiweddar yn erbyn Bosnia a Chyprus.
Mae disgwyl i Allen hefyd ddychwelyd i dîm Lerpwl yn fuan, ac felly oni bai eu bod nhw’n ail-anafu’u hunain fe ddylai’r ddau fod yn ffit ar gyfer y garfan ryngwladol nesaf.
Fodd bynnag mae nifer o chwaraewyr Arsenal wedi cymryd hirach na’r disgwyl i wella o anafiadau’n ddiweddar, gyda Ramsey’i hun allan am dri mis yn gynharach eleni gydag anaf i’w goes ddylai wedi gwella o fewn tair wythnos.
Bydd Coleman eisoes yn gorfod gwneud heb Andy King, gafodd gerdyn coch yn erbyn Cyprus, a Simon Church sydd wedi datgymalu’i ysgwydd ar gyfer y trip i Wlad Belg ar 16 Tachwedd.
Mae Andrew Crofts hefyd allan ar ôl anafu cymalau yn ei ben-glin, tra bod Sam Vokes yn parhau i geisio gwella mewn pryd o anaf hir dymor i’w ben-glin yntau.