Mae 22,000 o bobl yn marw bob blwyddyn ar ôl cael trawiad ar y galon yn eu cartrefi, yn ôl ffigurau newydd gan Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF).
Yn aml mae pobl yn cael trawiad o flaen eu teuluoedd neu ffrindiau a dim ond un ymhob 10 sy’n goroesi.
Fe allai hynny fod oherwydd nad oes gan 61% o bobl y sgiliau neu’r hyder i gyflawni adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a allai helpu’r person i oroesi, yn ôl BHF sy’n lansio ymgyrch heddiw sy’n galw am roi hyfforddiant CPR gorfodol mewn ysgolion uwchradd.
Dywed yr elusen y gallai sgiliau CPR a chodi ymwybyddiaeth helpu i achub 5,000 o fywydau bob blwyddyn.