David Cameron
Fe fydd David Cameron yn trafod camau pellach i fynd i’r afael ag Ebola gydag uwch swyddogion heddiw ar ôl i arweinwyr byd dderbyn bod angen i’r gymuned ryngwladol “ymateb yn gynt a gwneud mwy” i ddelio gyda’r argyfwng.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gadeirio cyfarfod o bwyllgor brys y Llywodraeth, Cobra, yn sgil rhybuddion bod y firws yn lledu yng ngorllewin Affrica a phryderon am ymdrechion i atal Ebola rhag lledu mewn rhannau eraill o’r byd.

Yn yr Unol Daleithiau, mae’r Tŷ Gwyn wedi derbyn bod ’na fethiannau yn y driniaeth a gafodd claf Ebola yn Texas ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod ail nyrs fu’n gofalu amdano wedi cael ei heintio.

Roedd hi wedi teithio ar awyren gyda 132 o deithwyr eraill y diwrnod cyn iddi ddechrau cael symptomau o’r firws.

Roedd yr Arlywydd Barack Obama wedi cynnal cyfarfod gyda’i gabinet neithiwr ac wedi cael sgwrs drwy gyswllt fideo gyda David Cameron ac arweinwyr Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal.

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd llefarydd ar ran Downing Street eu bod nhw i gyd yn gytûn bod angen i’r gymuned ryngwladol “wneud llawer mwy ac yn gynt er mwyn atal y firws rhag lledu.”

Mae’r Llywodraeth wedi amddiffyn mesurau Prydain i ddiogelu’r DU rhag Ebola, sy’n cynnwys cynllun sgrinio ym maes awyr Heathrow ond mae wedi wynebu beirniadaeth am beidio â bod yn ddigon trylwyr.
Fe fydd staff meddygol lluoedd Prydain yn dechrau cyrraedd Sierra Leone heddiw er mwyn helpu gyda’r gwaith i atal Ebola.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cofnodi 8,914 o achosion, gan gynnwys 4,447 o farwolaethau.