Mae dau ddyn o Wrecsam wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 25 oed.

Bu farw Sion Craig Davies, o Lon Hullah, Wrecsam yn Ffordd Deva, Parc Caia yn oriau mân fore Sadwrn, 11 Hydref.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod wedi cyhuddo Anthony James Munkley, 53, a Lee Michael Roberts, 32, o’i lofruddio.

Mae disgwyl i’r ddau fynd gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Gwener, 16 Hydref.