Dylan Thomas
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn cyhoeddi rhifyn arbennig o bapur newydd ffug i ddathlu canmlwyddiant geni’r bardd Dylan Thomas.

Fe fydd copïau o’r ‘Llareggub Times’ – sy’n tynnu ar enw tref ffuglennol o ‘Under Milk Wood’ – ar gael mewn nifer o atyniadau i dwristiaid ac mewn gwestai ar draws y ddinas yn ystod Gŵyl Dylan Thomas rhwng Hydref 27 a Thachwedd 9.

Mae’r papur newydd wedi’i greu yn null papurau newydd degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, ac fe fydd yn cynnwys gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer yr ŵyl.

Ymhlith y prif siaradwyr eleni mae Bob Kingdom, John Goodby a Wendy Pollard, awdures y cofiant i gariad cyntaf y bardd, Pamela Hansford Johnson.

‘Syniadau arloesol’

Fe fydd arddangosfa Dylan Thomas yng Nghanolfan Dylan Thomas yn cael ei hadnewyddu’n barod ar gyfer yr ŵyl, wedi iddi dderbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd y cynghorydd lleol Robert Francis-Davies fod y ‘Llareggub Times’ yn “enghraifft arall o’r syniadau arloesol sy’n helpu i gadw dathliadau canmlwyddiant geni Dylan ar flaenau cof pobol ac i apelio i gynulleidfa eang”.

Fel rhan o’r dathliadau, fe fydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu geni yn y tŷ lle ganed Dylan Thomas – 5 Cwmdonkin Drive.

Yn ogystal, fe fydd gŵyl Do Not Go Gentle yn cael ei chynnal yn ardal Uplands y ddinas rhwng Hydref 24 a Hydref 26 ac fe fydd yn cynnwys cerddorion, llenorion, comedïwyr a nosweithiau ffilm.

Bydd ‘Dylanathon’ yn cael ei chynnal yn Theatr y Grand ar Hydref 26, ac fe fydd enw enillydd Gwobr Dylan Thomas i awduron ifanc yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ar Dachwedd 6.