Yr Arglwydd Freud
Mae’r Gweinidog Lles, yr Arglwydd Freud, wedi ymddiheuro am ei sylwadau yn awgrymu nad oedd rhai pobl anabl “yn haeddu’r” isafswm cyflog ond mae’n debyg nad fydd yn ildio i bwysau arno i ymddiswyddo.
Dywedodd yr Arglwydd Freud ei fod wedi bod yn “ffôl” i “gytuno gyda chwestiwn” a gafodd ei ofyn iddo yn ystod digwyddiad ymylol yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol fis diwethaf.
Fe awgrymodd y dylai rhai pobl anabl gael eu talu cyn lleied â £2 yr awr ac y byddai’n “edrych i mewn i’r mater.”
“I fod yn hollol glir, fe ddylai’r holl bobl anabl gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog, yn ddieithriad, ac rwy’n derbyn ei fod yn sarhaus i awgrymu unrhyw beth arall.
“Rwy’n ymddiheuro’n daer am unrhyw sarhad yr wyf wedi ei achosi i bobl anabl,” meddai.
Mae David Cameron wedi mynnu nad yw e’n rhannu barn yr Arglwydd Freud.
Fe awgrymodd yr arweinydd Llafur Ed Miliband yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog y dylai’r gweinidog gael ei ddiswyddo, ac mae nifer o Aelodau Seneddol, gan gynnwys elusennau ac undebau, wedi galw ar yr Arglwydd Freud i ymddiswyddo.