Prisiau petrol yn is
Mae graddfa chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers pum mlynedd.

Roedd wedi gostwng i 1.2% ym mis Medi wrth i’r archfarchnadoedd barhau i gadw prisiau’n isel a phrisiau petrol hefyd yn is.

Fe gwympodd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) mwy na’r disgwyl i 1.5% yn y mis blaenorol.

Roedd prisiau bwyd ac alcohol wedi gostwng 1.4%, y gostyngiad mwyaf ers mis Mehefin 2002.

Roedd gwerth y bunt wedi gostwng yn sylweddol heddiw gan fod y cwymp yng ngraddfa chwyddiant yn golygu ei bod yn llai tebygol y bydd Banc Lloegr yn gorfod cynyddu cyfraddau llog o 0.5%.

Mae’r ffigwr CPI yn golygu y bydd cynnydd o 2.5% mewn pensiynau gwladol, neu £2.85 yr wythnos, yn y gwanwyn.