Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychiaeth yn dilyn cyrch gan uned gwrth-frawychiaeth de ddwyrain Lloegr.

Cafodd tri dyn a thair dynes eu harestio mewn eiddo yn Portsmouth a Farnborough yn Hampshire, a Greenwich, yn ne ddwyrain Llundain, meddai’r heddlu.

Mae dau o’r dynion, 23 a 26 oed, a dwy o’r merched, 23 a 29 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi ac annog gweithredoedd brawychiaeth.

Daw’r datblygiadau diweddaraf ar ôl i dri dyn gael eu harestio gan heddlu gwrth-frawychiaeth yn Llundain ddoe.